Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 17 Ebrill 2020
Amser:
12.33 -
14.13
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Siân Gwenllian Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Bethan Garwood, Dirprwy Clerc Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfodydd ar gyfer eu cyhoeddi.
Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddraf i'r Pwyllgor Busnes ynghylch ychwanegu dau ddatganiad ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, a bod yr holl ddatganiadau wedi'u hymestyn i 45 munud yr un.
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) (45 Munud)
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi'u gohirio tan 29 Ebrill fel y gellir eu trafod ochr yn ochr â'r rheoliadau a fydd yn eu diwygio.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher yr wythnos nesaf, ac y dylai ddechrau am 1.30pm. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd na fydd unrhyw doriad yn y trafodion.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â rhoi unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Nifer yr Aelodau'n bresennol:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i barhau gyda dyrannu Aelodau ar gyfer pob grŵp o'r Cyfarfod Llawn diwethaf: 12 Llafur a'r llywodraeth, 6 Ceidwadwyr, 4 Plaid Cymru a 2 Brexit, gan roi uchafswm o 28 yn bresennol pe bai pob Aelod annibynnol yn bresennol.
Cytunwyd hefyd i ganiatáu i aelod arall o'r pleidiau gymryd lle eu harweinwyr pleidiau (gan gynnwys y Prif Weinidog) ar ôl yr eitem gyntaf.
Gofynnodd y Llywydd i swyddogion anfon nodyn at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o ymddygiad yn ystod cyfarfodydd Zoom.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 wythnos nesaf:
Dydd Mercher 29 Ebrill 2020
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)
· Cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ac y byddant yn destun un bleidlais (30 munud)
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Diwygio) (Cymru) 2020
Dydd Mercher 6 Mai 2020
·
Datganiad gan y Prif Weinidog:
Coronafeirws (COVID-19) (3045
munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) (45 Munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)
Esboniodd y Trefnydd y byddai datganiadau gan y Gweinidog Iechyd a Gweinidog yr Economi bob pythefnos am yn ail â'i gilydd ar ôl yr wythnos nesaf.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Trefnydd am ragor o wybodaeth am y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol sydd wedi'i drefnu ar gyfer 6 Mai.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith nad oedd Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Biliau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn ymddangos ar yr amserlen tair wythnos fel y rhagwelwyd yn flaenorol oherwydd oedi o ran cynnydd seneddol y Biliau hyn.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd mewn egwyddor i gyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ddydd Iau 4 Mehefin. Mae hyn yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor Busnes o ran amserlen ar gyfer busnes pwyllgorau.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf, unwaith y bydd y Cabinet wedi trafod y rhaglen ddeddfwriaethol yr wythnos nesaf.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes hefyd i swyddogion ymchwilio i sut y gallai trafodion Cyfnod 2 weithio yn yr amgylchiadau presennol, naill ai'n rhithiol neu'n bersonol gan barchu rheolau ymbellhau cymdeithasol yr un pryd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ailddechrau gweithgareddau pwyllgorau ar gyfer busnes yn ymwneud â materion Covid-19, rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a busnes arall sy'n hanfodol o ran amser. Byddai amserlen pwyllgor pedair wythnos dreigl yn cael ei datblygu, mewn ymgynghoriad â chadeiryddion pwyllgorau.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ailafael yn ei gyfrifoldebau o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Cytunwyd hefyd y gallai'r Pwyllgor, ynghyd â Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ddechrau gwneud trefniadau i gwrdd yn ystod yr wythnos yn cychwyn 27 Ebrill.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd y Llywydd yn galw cyfarfod Fforwm y Cadeiryddion yr wythnos nesaf. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes a gaiff y Cadeiryddion drafodaeth gydag aelodau'r pwyllgor cyn y cyfarfod er mwyn sicrhau'r mewnbwn a'r ymgysylltiad ehangaf posibl. Cafodd y Rheolwyr Busnes hefyd eu hannog gan y Llywydd i fynd i gyfarfod Fforwm y Cadeiryddion.
Cyfeiriodd y Rheolwyr Busnes at y cyfyngiadau capasiti sy'n gysylltiedig â chefnogi cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir y pwyllgorau cyhoeddus, gan gyfyngu gweithgaredd i un cyfarfod pwyllgor ar unrhyw adeg.
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Esboniodd y Trefnydd nad yw'r Memoranda ar y Biliau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn ymddangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes oherwydd oedi yn yr amserlen Seneddol, ac nid yw'n glir pryd y bydd angen trafod y Memoranda. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiadau cau i'r pwyllgorau ar gyfer adrodd yn ôl i 14 Mai ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth a 21 Mai ar gyfer y Bil Pysgodfeydd.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod y gwaith craffu Seneddol ar Fil yr Amgylchedd wedi cael ei oedi, felly cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiadau cau i'r pwyllgorau ar gyfer adrodd yn ôl i 4 Mehefin.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd bod y broses o osod Memoranda ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) 2020, y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) 2020 a'r Bil Diogelwch Tân wedi cael ei gohirio oherwydd bod gwaith ymateb i COVID-19 yn cael ei flaenoriaethu. Gobaith y Llywodraeth yw gosod y Memoranda ar y rhain yr wythnos nesaf.
Cwestiynau Ysgrifenedig
Cododd rheolwyr busnes yr wrthblaid faterion sy’n ymwneud ag amseroldeb a chynnwys atebion ysgrifenedig, ac roedd gan y Trefnydd bryderon ynghylch nifer a chynnwys y cwestiynau, gyda rhai ohonynt am wybodaeth a oedd eisoes ar gael i'r cyhoedd. Roedd rheolwyr busnes yr wrthblaid o'r farn nad oedd y wybodaeth ar gael i'r cyhoedd ar yr adeg y gofynnwyd y cwestiwn. Gofynnodd y Llywydd i swyddogion roi rhagor o wybodaeth iddi er mwyn llywio trafodaeth y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol.
Cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y Dyfodol
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol ar ddechrau'r wythnos, gyda'r diwrnod a'r amser i'w cytuno y tu allan i'r pwyllgor.